2004 Rhif 1026 (Cy.123)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2 ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996: