(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, gyda newidiadau, yn disodli darpariaethau a gafwyd yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001. Maent yn darparu ar gyfer i'r pennaeth gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a sgiliau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgol arbennig na chaiff ei chynnal yn y modd hwnnw (rheoliad 4).

Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion pan fo disgyblion ganddynt o dan ystyriaeth i'w trosglwyddo ( rheoliad 5). Mae Rheoliad 6 yn nodi cynnwys yr adroddiad y mae'n ofynnol i bennaeth yr hen ysgol ei anfon at bennaeth yr ysgol newydd cyn gynted ag y mae'r disgybl wedi trosglwyddo i'r ysgol newydd.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae'n ofynnol i'r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy'n oedolion bob blwyddyn ysgol (rheoliad 7) a'r wybodaeth ychwanegol y gall rhieni disgyblion cofrestredig sy'n cael eu hasesu yn unrhyw gyfnod allweddol ofyn amdani sy'n ymwneud â lefelau cyraeddiadau disgybl yn y pynciau perthnasol (rheoliad 8). Mae Rheoliad 9 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i bennaeth drefnu ei bod ar gael yn yr adroddiadau a roddir i ddisgyblion sy'n gadael yr ysgol. Mae Rheoliad 10 yn nodi cyfyngiadau penodol ar ddarparu gwybodaeth.

Os yw'n ofynnol, rhaid i unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae angen iddynt fod ar gael o dan y Rheoliadau gael eu cyfieithu i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 11).

Dirymir Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 fel y'u diwygiwyd a dirymir Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 (rheoliad 12).