3.—(1) Yn y rheoliadau hyn ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a'i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arnynt yn Atodlen 2.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr “cofnod addysgol” (“educational record”) yw unrhyw gofnod o wybodaeth, gan gynnwys cofnod cwricwlaidd disgybl —
(a)a brosesir gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym mharagraff (3), neu gan neu ar ran athro neu athrawes yn yr ysgol honno;
(b)sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac
(c)a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (4),
heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro neu athrawes at ddefnydd yr athro neu'r athrawes yn unig.
(3) Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) —
(a)ysgol a gynhelir; a
(b)ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.
(4) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c) —
(a)gweithiwr cyflogedig yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
(b)yn achos—
(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu
(ii)ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,
athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
(c)y disgybl y mae'r cofnod yn berthnasol iddo; a
(ch)rhiant i'r disgybl hwnnw(1).
Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o “educational record” a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).