xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Ystyron cofnod cwricwlaidd a chofnod addysgol

3.—(1Yn y rheoliadau hyn ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a'i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arnynt yn Atodlen 2.

(2Yn y rheoliadau hyn ystyr “cofnod addysgol” (“educational record”) yw unrhyw gofnod o wybodaeth, gan gynnwys cofnod cwricwlaidd disgybl —

(a)a brosesir gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym mharagraff (3), neu gan neu ar ran athro neu athrawes yn yr ysgol honno;

(b)sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac

(c)a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (4),

heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro neu athrawes at ddefnydd yr athro neu'r athrawes yn unig.

(3Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) —

(a)ysgol a gynhelir; a

(b)ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.

(4Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c) —

(a)gweithiwr cyflogedig yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;

(b)yn achos—

(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu

(ii)ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,

athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);

(c)y disgybl y mae'r cofnod yn berthnasol iddo; a

(ch)rhiant i'r disgybl hwnnw(1).

(1)

Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o “educational record” a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).