Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Rheoliad 6

ATODLEN 1GWYBODAETH DROSGLWYDDO GYFFREDIN

1.  Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl —

(a)rhif unigryw'r disgybl;

(b)cyfenw;

(c)enw(au) cyntaf;

(ch)dyddiad geni;

(d)rhyw;

(dd)grŵp ethnig;

(e)hunaniaeth genedlaethol;

(f)pwy a ddarparodd yr wybodaeth o ran grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl;

(ff)pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.

(g)a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy;

(ng)pwy a ddarparodd yr wybodaeth am ba mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg ac a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref;

(h)a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(1), wedi gwneud cais am brydau am ddim yn yr ysgol a'i gael yn gymwys iddynt;

(i)a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am laeth am ddim yn yr ysgol a'i gael yn gymwys iddo.

2.  A oes gan ddisgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o —

(a)brif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a

(b)y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”(2), a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw.

3.  Lle mae'r disgybl yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, yna'r ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.

4.  Manylion y cyfeiriad lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.

5.  Cyfenw o leiaf un person cyswllt a manylion eu perthynas â'r disgybl.

6.  Dangosydd lle mae gwybodaeth feddygol yn bodoli a allai fod yn berthnasol i ysgol newydd y disgybl.

7.  Cyfanswm —

(a)y sesiynau yn y flwyddyn ysgol tan y dyddiad y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol;

(b)y sesiynau hynny yn y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl; a

(c)absenoldebau awdurdodedig y disgybl a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) yn y flwyddyn ysgol.

8.  Y rhif AALl a rhif ysgol yr hen ysgol yn ogystal â'r ysgol newydd.

(1)

Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, am adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1).

(2)

ISBN 0 7504 27574.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources