7. Cyfanswm —
(a)y sesiynau yn y flwyddyn ysgol tan y dyddiad y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol;
(b)y sesiynau hynny yn y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl; a
(c)absenoldebau awdurdodedig y disgybl a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) yn y flwyddyn ysgol.