Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol
2.—(1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf.
(2) Canrannau disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
(3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly.
(4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol.
(5) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny.
(6) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).