xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
20 Ionawr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004.
(2) Yn Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel "y Ddeddf".
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. 24 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 6(3) o'r Ddeddf ddod i rym.
3. 31 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 12 o'r Ddeddf ddod i rym.
4. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 49 o'r Ddeddf ddod i rym i'r graddau na chafodd yr adran honno ei dwyn i rym eisoes.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Ionawr 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r chweched Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru.
Mae erthygl 2 yn pennu 24 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 6(3) o'r Ddeddf i rym yng Nghymru.
Mae erthygl 3 yn pennu 31 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 12 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru.
Mae erthygl 4 yn pennu 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw adran 49 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru, i'r graddau nad yw'r adran honno eisoes mewn grym.
Mae adran 6(3) yn mewnosod diwygiadau ym mharagraff 16 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a rhoi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ynghylch tâl a thelerau ac amodau eraill y maent yn cyflogi staff odanynt ac yn gyffredinol mewn cysylltiad â materion ynghylch cyflogi staff.
Mae adran 12 yn mewnosod adran 19A newydd yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu, i'r graddau y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol i fodloni holl ofynion rhesymol, i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer pobl sy'n dymuno cwyno am y gwasanaeth y maent (neu y mae rhywun y maent yn gofalu amdano) wedi ei gael oddi wrth y GIG.
Mae adran 49 yn eithrio gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig o'r gwasanaethau y gall yr awdurdodau lleol eu darparu yn unol â deddfiadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal cymunedol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 3 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | 2002/1475 |
Adran 5 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 11 | 1 Rhagfyr 2002 | 2002/1475 |
Adran 13 | 17 Mawrth 2003 | 2003/713 |
Adran 16 | 26 Awst 2002 | 2002/1919 |
Adran 19 — 26 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 27 | 26 Awst 2002 | 2002/1919 |
Adran 28 — 39 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 41 — 43 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Adran 49 | 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) | 2001/3807 |
Adran 50(1) | 8 Ebrill 2002 | 2001/3752 |
Adran 50 (2) i (10) | 19 Rhagfyr 2001 | 2001/3807 |
Adran 51 | 8 Tachwedd 2001 | 2001/3752 |
Adran 52 | 8 Tachwedd 2001 | 2001/3752 |
Adran 53 | 1 Ebrill 2003 | 2003/939 |
Adran 54 | 1 Ebrill 2003 | 2003/939 |
Adran 55 | 1 Ebrill 2003 | 2003/939 |
Adran 67(1) ac Atodlen 5; | 1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) | 2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919 |
Adran 67(2) ac Atodlen 6; | 1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) | 2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919 |
Atodlen 2 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Atodlen 3 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S.2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87).