2004 Rhif 1042 (Cy.124)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 78(1), 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2004.
2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliadau 1988” (“the 1988 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 19882;
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19973;
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986”4.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 19882
Yn rheoliad 4(2)(j) o Reoliadau 1988 (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu o gwbl ac i gael taliadau llawn), yn lle “requirements equal or exceed his or her income resources”, rhodder “income resources do not exceed his or her requirements or exceed his or her requirements by fifty per cent or less of the amount of the charge specified in regulation 3(1)(b) (supply of drugs and appliances by chemists) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) Regulations 2000”5).
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 19973
Yn rheoliad 8(3)(e) o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol), ar ôl “requirements as so calculated”, mewnosoder “or exceed his requirements as so calculated by fifty per cent or less of the amount of the charge specified in regulation 3(1)(b) (supply of drugs and appliances by chemists) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) Regulations 2000”.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 19864
Yn rheoliad 13(2)(e) o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster), yn lle “or equal to his requirements as so calculated”, rhodder “his requirements as so calculated or exceed his requirements as so calculated by fifty per cent or less of the amount of the charge specified in regulation 3(1)(b) (supply of drugs and appliances by chemists) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) Regulations 2000”.
Defnyddio'r Rheoliadau hyn5
1
Lle penderfynir ar hawl person i gael treuliau teithio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi'u talu drosto neu ar ei hawl i beidio â thalu o gwbl dâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan reoliad 4 o Reoliadau 1988 a hynny ar neu ar ôl 6 Ebrill 2004, rhaid penderfynu ar hynny yn unol â'r diwygiad sydd wedi'i wneud gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn, ni waeth pryd y codir y tâl neu pryd y tynnir treuliau teithio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2
Lle penderfynir ar hawl person i gael taliad am neu at gost teclyn optegol o dan reoliad 8 o Reoliadau 1997, neu ar gymhwyster person i gael prawf llygaid o dan reoliad 13 o Reoliadau 1986 a hynny ar neu ar ôl 6 Ebrill 2004, rhaid penderfynu ar hawl neu gymhwyster o'r fath yn unol â'r diwygiadau sydd wedi'u gwneud gan reoliadau 3 neu 4 o'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)