Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1042 (Cy.124)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

1 Ebrill 2004

Yn dod i rym

6 Ebrill 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 78(1), 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2004.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Rheoliadau 1988” (“the 1988 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(2);

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3);

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986”(4).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 1988

2.  Yn rheoliad 4(2)(j) o Reoliadau 1988 (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu o gwbl ac i gael taliadau llawn), yn lle “requirements equal or exceed his or her income resources”, rhodder “income resources do not exceed his or her requirements or exceed his or her requirements by fifty per cent or less of the amount of the charge specified in regulation 3(1)(b) (supply of drugs and appliances by chemists) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) Regulations 2000”(5)).

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997

3.  Yn rheoliad 8(3)(e) o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol), ar ôl “requirements as so calculated”, mewnosoder “or exceed his requirements as so calculated by fifty per cent or less of the amount of the charge specified in regulation 3(1)(b) (supply of drugs and appliances by chemists) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) Regulations 2000”.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986

4.  Yn rheoliad 13(2)(e) o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster), yn lle “or equal to his requirements as so calculated”, rhodder “his requirements as so calculated or exceed his requirements as so calculated by fifty per cent or less of the amount of the charge specified in regulation 3(1)(b) (supply of drugs and appliances by chemists) of the National Health Service (Charges for Drugs and Appliances) Regulations 2000”.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn

5.—(1Lle penderfynir ar hawl person i gael treuliau teithio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi'u talu drosto neu ar ei hawl i beidio â thalu o gwbl dâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan reoliad 4 o Reoliadau 1988 a hynny ar neu ar ôl 6 Ebrill 2004, rhaid penderfynu ar hynny yn unol â'r diwygiad sydd wedi'i wneud gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn, ni waeth pryd y codir y tâl neu pryd y tynnir treuliau teithio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

(2Lle penderfynir ar hawl person i gael taliad am neu at gost teclyn optegol o dan reoliad 8 o Reoliadau 1997, neu ar gymhwyster person i gael prawf llygaid o dan reoliad 13 o Reoliadau 1986 a hynny ar neu ar ôl 6 Ebrill 2004, rhaid penderfynu ar hawl neu gymhwyster o'r fath yn unol â'r diwygiadau sydd wedi'u gwneud gan reoliadau 3 neu 4 o'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

Rhodri Morgan

Prif Weinidog Cymru

1 Ebrill 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“Rheoliadau 1988”), Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).

Mae Rheoliadau 1988 yn darparu ar gyfer peidio â chodi tâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“GIG”) ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion llygaid, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y GIG.

Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn codi'r lefel incwm sy'n cymhwyso'r rhai sydd â hawl i ad-daliad o dreuliau teithio ac i beidio â thalu taliadau'r GIG, ac i gael prawf llygaid y GIG a thaleb tuag at gost teclyn optegol. Codir y lefel incwm sy'n cymhwyso'r rhai sydd â hawl, a hynny o'r hyn sy'n cyfateb i ofynion person (neu sy'n llai na hynny) i'r hyn sy'n fwy na'i ofynion ef neu hi gan bum deg y cant neu lai o dâl presgripsiwn y GIG sy'n daladwy ar hyn o bryd yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000 (y tâl ar hyn o bryd yw £6.40).

(1)

1977 p.49 (“Deddf 1977”). Diwygiwyd Adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 27. Diwygiwyd adran 78(1) gan Ddeddf 1988, adran 25 ac Atodlen 3. Mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990; gan Atodlen 4, paragraff 37(6) i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8); gan adran 2(5) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) a pharagraffau 5 a 13 o Atodlen 2 iddi ac adrannau 6(3) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17). Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3). Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26 (2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 78(1), 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4); adran 68(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15); adran 40(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ac adran 197(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43).

(5)

O.S.2000/620; fel y'i diwygiwyd gan 2000/2393 a 3189, 2001/746 a 2887, 2002/548, 1386 a 2352, 2003/585, 699 a 1084 a 2004/633.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources