(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999 ac adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliadau 2000 yn darparu fframwaith ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol. Yn arbennig mae Rheoliadau 2000 yn pennu'r cyrff gwasanaeth iechyd gwladol y maent yn gymwys iddynt, ac yn darparu ar gyfer ffurfio cydbwyllgorau i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli'r trefniadau partneriaeth hynny.

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio Rheoliadau 2000 drwy roi cyfeiriadau at Fyrddau Iechyd Lleol yn lle'r cyfeiriadau presennol at Awdurdodau Iechyd.

Mae rheoliad 2(3) a 2(4) yn diwygio Rheoliadau 2000 i ddarparu, pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, y caiff unrhyw aelod o'r awdurdod hwnnw eistedd ar y cydbwyllgor, p'un a yw'r aelod hwnnw hefyd yn aelod o weithrediaeth neu Fwrdd yr awdurdod neu beidio.