xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 13LL+CHysbysiadau a Phenderfyniadau

Cyflwyno hysbysiadauLL+C

65.—(1Caniateir i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Asiantaeth neu swyddog gorfodi gael ei gyflwyno i berson drwy—

(a)ei ddanfon i'r person hwnnw;

(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu

(c)ei bostio i briod gyfeiriad y person hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol ac eithrio partneriaeth gael ei gyflwyno'n briodol i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw neu i swyddog tebyg arall.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) gael ei gyflwyno'n briodol i bartner neu berson a chanddo rheolaeth ar y busnes partneriaeth.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad hysbys diwethaf y person fydd priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo, ac eithrio'r ffaith mai'r canlynol fydd y priod gyfeiriad—

(a)yn achos corff corfforaethol neu ei ysgrifennydd neu ei glerc, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y corff corfforaethol;

(b)yn achos cymdeithas anghorfforaethol (ac eithrio partneriaeth) neu ei hysgrifennydd neu ei chlerc, cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas; ac

(c)yn achos partneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) neu berson a chanddo reolaeth ar y busnes partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth.

(5Pan fo'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn gwmni sydd wedi'i gofrestru, neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes, y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a bod gan y cwmni neu'r bartneriaeth swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig, prif swyddfa'r cwmni hwnnw neu'r bartneriaeth honno at ddibenion paragraff 4 fydd ei brif swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig.

(6Os yw'r person y mae unrhyw hysbysiad o'r fath i'w gyflwyno iddo wedi rhoi i'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno drwyddo gyfeiriad yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ymdrinnir â'r cyfeiriad hwnnw fel priod gyfeiriad y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo at ddibenion y rheoliad hwn.

(7At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “postio” hysbysiad yw ei anfon drwy ddull rhagdaledig drwy wasanaeth post sy'n ceisio danfon dogfennau drwy'r post o fewn y Deyrnas Unedig heb fod yn ddiweddarach na'r diwrnod gwaith nesaf ym mhob achos neu ran amlaf, a danfon dogfennau drwy'r post y tu allan i'r Deyrnas Unedig o fewn y cyfnod sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 65 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Hysbysu o benderfyniadauLL+C

66.  Pan fo penderfyniad yn cael ei wneud, o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â chynnyrch neu lwyth, rhaid i'r person sy'n gwneud y penderfyniad, os gofynnir iddo wneud hynny, hysbysu'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth mewn ysgrifen o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ynghyd â manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gan gynnwys y weithdrefn a'r terfynau amser sy'n gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 66 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1