RHAN 3Darpariaethau sy'n Gymwys i Gynhyrchion yn Gyffredinol

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfioI115

Heb leihau effaith rheoliad 22 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 199521, ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i mewn i Gymru o drydedd wlad, na chynnyrch nad yw'n cydymffurfio sy'n tarddu o drydedd wlad i mewn i Gymru o fan arall yn y tiriogaethau perthnasol—

a

onid yw'n gynnyrch tramwy, neu

b

onid yw ei sefydliad cyrchfan yn warws mewn parth rhydd, yn warws rydd neu'n warws dollfa sydd wedi'i chymeradwyo yn unol ag Erthygl 12(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, neu storfa longau sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a leolwyd (ym mhob achos) y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 15 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth fannau archwilio ar y ffinI216

1

Ni chaniateir cyflwyno unrhyw gynnrych i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

2

Ni chaniateir cyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch Erthygl 9, y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

3

Bydd y rheoliad hwn yn cael ei orfodi—

a

wrth bwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr;

b

mewn mangreoedd y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(b) gan yr Asiantaeth; ac

c

mewn unrhyw fan arall gan yr awdurdod lleol.

4

Mewn achosion lle mae swyddog i awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod wrth bwynt mynediad lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog o'r farn y gallai fod wedi'i gyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog hysbysu swyddog tollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch nes bod swyddog tollau yn ei gymryd dan ei ofal.

5

At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 197922 i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 16 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â chyflwyno neu roi cynhyrchionI317

1

Ni chaiff neb—

a

cyflwyno cynnyrch i Gymru o drydedd wlad, na

b

cyflwyno i Gymru gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru,

oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r man archwilio hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

2

Pan fydd y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch i fan archwilio ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r man archwilio hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

3

Rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)—

a

bod ar y ffurf a nodir fel Dalen 1 yn Atodlen 1 neu mae rhaid iddo gynnwys disgrifiad manwl o'r cynnyrch mewn ysgrifen neu ar ffurf electronig, sy'n cynnwys o leiaf y manylion sy'n ymddangos ar y ffurflen honno;

b

bod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn iaith swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;

c

cyrraedd y man archwilio ar y ffin—

i

o leiaf chwe awr gwaith, yn achos cynnyrch sy'n cael ei gyflwyno drwy'r awyr, a

ii

o leiaf un diwrnod gwaith, mewn unrhyw achos arall,

cyn bod y cynnyrch yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin yn unol â rheoliad 18; ac

ch

yn achos hybsysiad a roddwyd i fan archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, pennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno.

4

Ym mharagraff (3) ystyr “oriau gwaith” yw oriau pryd y mae'r man archwilio ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18 ac ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod pan fydd y man archwilio ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 17 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Rhoi cynhyrchion wrth fannau archwilio ar y ffinI418

1

Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch sy'n cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru ac sy'n cael ei gyflwyno i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynol neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch i'r man hwnnw yn unol â rheoliad 17.

2

Pan fydd man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 yn y Deyrnas Unedig a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad 17.

3

Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, yn unol â pharagraff (1) neu (2) roi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud ag ef a'r rheini'n ddogfennau sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

4

Rhaid i berson sydd yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn rhoi cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi cyfieithiad o'r ddogfen ofynnol i'r Gymraeg neu'r Saesneg yr un pryd, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigydd â chymhwyster priodol wedi cadarnhau mai cyfieithiad cywir ydyw.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 18 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Gwiriadau milfeddygolI519

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 38, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u trawslwytho, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo yn rhinwedd rheoliad 18 roi cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu i sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, i filfeddyg swyddogol ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni'r gwiriadau canlynol ar y cynnyrch neu'r dogfennau gofynnol—

a

gwiriad dogfennol,

b

gwiriad adnabod, ac

c

yn ddarostyngedig i reoliadau 41, 46 a 50, gwiriad ffisegol,

a rhaid iddo roi i'r milfeddyg swyddogol neu'r cynorthwy-ydd unrhyw gymorth y bydd yn gofyn yn rhesymol amdano i'w galluogi i gyflawni unrhyw un o'r gwiriadau hynny.

2

Pan fydd sampl o gynnyrch yn cael ei gymryd wrth gynnal gwiriad ffisegol, ni chaiff neb symud y cynnyrch neu beri iddo gael ei symud o'r man archwilio ar y ffin lle cafodd ei roi nes bod y milfeddyg swyddogol wedi awdurdodi ei symud drwy ddyroddi tystysgrif cliriad milfeddygol ar gyfer y cynnyrch neu ar gyfer y llwyth neu'r llwyth rhannol sy'n cynnwys y cynnyrch.

3

Tra'n aros nes bod y cynnyrch yn cael ei symud yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol a thalu costau ei storio felly.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 19 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Tystysgrif cliriad milfeddygol i fynd gyda llwythI620

1

Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ran o lwyth y mae tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar ei gyfer neu ar ei chyfer, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y dystysgrif cliriad milfeddygol yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhan—

a

yn achos llwyth neu ran y bwriedir ei fewnforio neu ei mewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), nes bod y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd, ar ôl ei fewnforio neu ei mewnforio, y fangre lle mae cynhyrchion yn cael eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu, a

b

ym mhob achos arall tan na fydd y llwyth neu'r rhan yn ddarostyngedig mwyach i oruchwyliaeth gan yr awdurdodau tollau, o fewn ystyr Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau.

3

Rhaid i'r person sy'n meddiannu at ddibenion ei fusnes y fangre y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (1)(a) gymryd meddiant ar y dystysgrif cliriad milfeddygol y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) a dal ei afael arni yn y fangre am gyfnod o flwyddyn gan dechrau ar y diwrnod ar ôl iddi gyrraedd yno.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 20 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygolI721

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 22, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fydd y milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol yno, fod cynnyrch (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b)) yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, neu fod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â'r cynnyrch; a

b

pan fydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol ar gynnyrch sydd wedi'i leoli i ffwrdd o fan archwilio ar y ffin (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b)), yn penderfynu bod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio.

2

Os yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, ac os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person ymddangos iddo y mae'n ei fod â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw naill ai—

a

ailanfon y cynnyrch o'r man archwilio ar y ffin, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, o fan archwilio ar y ffin sydd wedi'i nodi yn yr hysbysiad, drwy'r dull cludo y cafodd ei gyflwyno i Gymru drwyddo, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

b

gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man archwilio ar y ffin, a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, y cyfleusterau agosaf at leoliad y cynnyrch.

3

Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol ag is-baragraff (2)(b)—

a

pan fydd ei ailanfon wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddgol, neu drwy unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu sydd fel arall yn amhosibl; neu

b

pan fydd y cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (2)(a) wedi mynd heibio; neu

c

pan fydd y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, perchennog y cynnyrch, yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

4

Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol â pharagraff (2) mewn perthynas ag ef, neu os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i berchennog y cynnyrch hwnnw, sicrhau ei fod yn cael ei storio nes iddo gael ei ailanfon neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y fan ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn yr hysbysiad.

5

Ym mharagraff (1)(a) ystyr “afreoleidd-dra arall” mewn perthynas â chynnyrch yw—

a

ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi i fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi yn unol â rheoliad 17;

b

unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol sydd wedi'i chynnwys mewn hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17;

c

unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddwyd yn unol â rheoliad 45 neu 49;

ch

unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—

i

yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch, neu

ii

y cynnyrch ei hun, neu

iii

y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;

d

unrhyw diffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y mae, yn ôl y dogfennau gofynnol, wedi'i fwriadu ar ei gyfer;

dd

unrhyw diffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (5)(ch)(iii), gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2;

e

yn achos cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac

f

yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b), unrhyw doriad o'r gofynion sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2.

6

Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a) neu (1)(b) yn ei dramgwyddo apelio o fewn mis o'r penderfyniad i lys ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 198023 yn gymwys i'r achos.

7

Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu yn unol â pharagraff (6), bydd paragraff (4) yn gymwys i storio'r cynnyrch o dan sylw.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 21 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Triniaeth cynhyrchion fel sgil-gynhyrchion anifeiliaidI822

1

Os yw'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw cynnyrch y mae rheoliad 21 yn gymwys iddo yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff awdurdodi bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 200324 er gwaethaf paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 21.

2

Rhaid i'r awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

3

Caiff yr awdurdodiad bennu p'un o'r defnyddiau yn rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003 a ganiateir.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 22 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau anawdurdodedig a gweddillion gormodolI923

1

Yn y rheoliad hwn—

a

mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr un ystyr ag “unauthorised substance” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a gweddillion y sylweddau hynny mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac yng Nghyfarwyddebau diddymu 85/358/EEC ac 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC25;

b

ystyr “terfyn gweddillion uchaf” yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n tarddu o anifeiliaid26.

2

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.

3

O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (2), bydd paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw ac a gyflwynir i Gymru.

4

Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin lle mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, a gwirio'r gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynyrchioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i ddadansoddi.

5

Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant i sicrhau bod yr holl daliadau sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

6

Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf, rhaid i'r milfeddyg swyddogol—

a

drwy arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth, roi awgrym clir o'r rhesymau dros ei wrthod; a

b

ailanfon llwyth, neu unrhyw ran ohono y mae'r milfeddyg swyddogol yn barnu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arni, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni.

7

Rhaid i gostau ailanfon a chludo'r llwyth neu'r rhan ohono i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a roddwyd yn unol â Rheoliad 17.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 23 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Llwythi a chynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n anghyfreithlonI1024

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —

a

pan fydd llwyth neu gynnyrch yn cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad ond nad yw'n cael ei roi yn unol â rheoliad 18;

b

pan fydd llwyth neu gynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad wedi'i gyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol, ond nad yw wedi'i roi wrth fan archwilio ar y ffin yno;

c

pan fydd y man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan i lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 yng Nghymru ond nad yw'r llwyth yn cael ei roi yno yn unol â rheoliad 18(1); ac

ch

pan fydd llwyth sy'n cael ei gyflwyno i Gymru yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin nad yw wedi'i ddynodi na'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw.

2

O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau (1)(a), (b) ac (c) rhaid i swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), rhaid i'r milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol amdano, gymryd y llwyth neu'r cynnyrch o dan ei ofal a naill ai —

a

ei ailanfon, drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno am y tro cyntaf i'r tiriogaethau perthnasol, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r perchennog, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau 1(a), (b) ac (c), neu gyda'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), a honno'n gyrchfan mewn trydedd wlad o fewn cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad; neu

b

ei waredu fel petai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man lle mae'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn ei gymryd o dan ei ofal a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 24 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Cynhyrchion sy'n beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoeddI1125

Os yw milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig o'r farn bod llwyth neu gynnyrch o drydedd wlad yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, ei gymryd o dan ei ofal a'i waredu yn unol â rheoliad 24(2)(b).

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 25 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Tor-cyfraith difrifol neu fynychI1226

1

Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dod i'r casgliad rhesymol, ar sail canlyniadau gwiriadau milfeddygol, fod cynhyrchion o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd y rheoliad hwn yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r drydedd wlad honno, o ran o drydedd wlad neu o sefydliad, a gyflwynir i Gymru.

2

Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin lle mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ei gymryd o dan ei ofal a chyflawni gwiriad ffisegol ohono, gan gynnwys cymryd samplau a gwneud profion a dadansoddiadau labordy.

3

Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob taliad sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

4

Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol sy'n cael ei gyflawni ar y llwyth yn datgelu bod unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol ynglŷn ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd wedi'i dorri, rhaid i'r milfeddyg swyddogol naill ai ailanfon y llwyth neu ei waredu yn unol â rheoliad 21(2).

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 26 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Annilysu dogfennau milfeddygolI1327

Pan fydd milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cynnyrch yn cael ei ailanfon yn unol â rheoliad 21(2)(a), neu'n cymryd llwyth o dan ei ofal yn unol â rheoliad 24(2), rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu'r llwyth hwnnw neu sy'n eu rheoli eu cyflwyno ar unwaith i'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig i'w hannilysu.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 27 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

Costau mewn perthynas â chynhyrchion sy'n cael eu hailanfon neu eu gwareduI1428

1

Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth o dan sylw neu, os oes hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch neu'r llwyth, perchennog y cynnyrch neu'r llwyth, neu'r person y mae hysbysiad atafaelu yn unol â Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wedi'i gyflwyno iddo, dalu costau storio, cludo, ailanfon a gwaredu unrhyw gynnyrch neu lwyth sy'n cael ei ailanfon neu ei waredu yn unol â rheoliad 21, 24, 25 neu 26, neu unrhyw bwerau sy'n cael eu harfer o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wrth orfodi rheoliad 16.

2

Rhaid i unrhyw gost y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ac sy'n cael ei thalu gan filfeddyg swyddogol, swyddog awdurdodedig, y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol, yr Asiantaeth neu'r Comisiynwyr gael ei had-dalu, os gofynnir iddo wneud hynny, gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth neu gan berchennog y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw.