RHAN 5Claddu ar Safleoedd Tirlenwi Gyflenwadau Arlwyo ar Gyfrwng Cludo na Ddefnyddiwyd Mohonynt
Cymeradwyo safleoedd tirlenwiI130
1
Dim ond ar safle tirlenwi a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn y caiff unrhyw berson sy'n gwaredu deunydd yn unol â rheoliad 29 ei gladdu ar safle tirlenwi.
2
Dim ond os yw wedi'i fodloni —
a
y byddai'r deunydd yn cael ei gladdu heb oedi gormodol er mwyn atal adar gwyllt rhag mynd ato;
b
bod y gweithredydd wedi cymryd camau digonol i atal carnolion rhag mynd i'r rhan o'r safle tirlenwi sydd heb ei hadfer ac i'r rhan o'r safle tirlenwi sy'n cael ei gweithio ar y pryd; ac
c
y byddai'r gweithredydd yn cydymffurfio ag unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth
y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo safle tirlenwi at ddibenion gwaredu deunydd o dan reoliad 29.
2
Rhaid i'r gymeradwyaeth fod yn ysgrifenedig, caniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei diwygio neu ei hatal drwy hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 32.
3
Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, neu'n rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r ceisydd—
a
rhoi'r rhesymau dros wneud hynny, a
b
esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 33 a chael gwrandawiad ganddo.
Gweithredwyr safleoedd tirlenwiI231
1
Rhaid i weithredydd safle tirlenwi a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 30—
a
cynnal a gweithredu'r fangre yn unol â'r gofynion ym mharagraff 30(2)(a) a (b) ac unrhyw amodau yn y gymeradwyaeth;
b
sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan y gweithredydd, ac unrhyw berson â chaniatâd i fynd i mewn i'r fangre yn cydymffurfio â'r gofynion a'r amodau hynny;
c
cydymffurfio â'r gofynion ynghylch cadw cofnodion a gynhwysir yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 1774/2002; ac
ch
cadw cofnodion cyfatebol ar gyfer deunydd y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29(3).
2
Caniateir i'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y rheoliad hwn fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am o leiaf ddwy flynedd.
Diwygio, atal a dirymu cymeradwyaethauI332
1
Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth yn cael ei fodloni mwyach, neu nad yw'r gweithredydd yn cydymffurfio â'r gofynion yn rheoliad 30(2)(a) a (b), neu fod angen gwneud hynny am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff atal y gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd.
2
Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y dylid diwygio unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff ddiwygio'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd.
3
O ran ataliad o dan baragraff (1) neu ddiwygiad o dan baragraff (2)—
a
bydd yn cael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn angenrheidiol iddo wneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a
b
ni fydd yn cael effaith fel arall am o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
4
Rhaid i'r hysbysiad ym mharagraff (1) neu (2)—
a
rhoi'r rhesymau dros yr ataliad neu'r diwygiad; a
b
esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i gael gwrandawiad gan berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 33.
5
Pan fydd apêl o dan reoliad 33, ni fydd diwygiad neu ataliad yn cael effaith tan ddyfarniad terfynol y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad hwnnw oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith yn gynt.
6
Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi atal cymeradwyaeth, ac—
a
nad oes unrhyw apêl wedi'i dwyn yn unol â rheoliad 33; neu
b
bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cadarnhau'r ataliad yn dilyn apêl o'r fath,
caiff ddirymu'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig ar yr amod ei fod wedi'i fodloni, o ystyried holl amgylchiadau'r achos, na fyddai'r fangre yn cael ei gweithredu yn unol â gofynion rheoliad 30(2)(a) neu (b) neu amodau'r gymeradwyaeth, os oes rhai.
ApelauI433
1
Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (4) o reoliad 30 neu baragraff (1) neu (2) o reoliad 32 o fewn un ar hugain o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad—
a
darparu sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
b
rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn dymuno ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad ganddo.
2
Pan fydd apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben a chael gwrandawiad ganddo—
a
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;
b
ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, rhaid i'r person a benodir felly beidio â bod yn swyddog neu was i'r Cynulliad Cenedlaethol;
c
os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus;
ch
rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
d
os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi o adroddiad y person annibynnol i'r apelydd.
3
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.