- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
48. Yn y Rhan hon ystyr “tystysgrif allforio” yw tystysgrif sy'n ardystio bod y cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â safonau iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, ac a ddyroddwyd i hwyluso allforiad gwreiddiol y cynnyrch hwnnw o diriogaeth dollau'r Gymuned gan yr awdurdod sy'n gyfrifol am fonitro safonau o'r fath yn sefydliad tarddiad Cymunedol y cynnyrch a ddychwelwyd.
49. Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi yn unol â rheoliad 18 gynnyrch a ddychwelwyd a'i ddogfennau gofynnol i filfeddyg swyddogol roi'r canlynol gyda'r dogfennau gofynnol—
(a)y dystysgrif allforio sy'n ymwneud â'r cynnyrch a ddychwelwyd neu gopi y dilyswyd ei fod yn gopi cywir gan yr awdurdod a'i dyroddodd;
(b)datganiad o'r rhesymau pam y cafodd y cynnyrch a ddychwelwyd ei wrthod gan y drydedd wlad;
(c)datganiad gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch a ddychwelwyd ei fod wedi cydymffurfio â'r amodau mewnforio ynglŷn â storio a chludo mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd ers i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei allforio'n wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned; a naill ai
(ch)yn achos cynnyrch a ddychwelwyd nad oedd wedi'i allforio'n weriddiol mewn cynhwysydd a oedd wedi'i selio, datganiad gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch a ddychwelwyd nad yw wedi cael ei drafod mewn unrhyw ffordd, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u pecynnu yn unig, heblaw llwytho a dadlwytho pecynau sydd heb eu hagor; neu
(d)yn achos cynnyrch a ddychwelwyd ac a allforiwyd yn wreiddiol mewn cynhwysydd sydd wedi'i selio, datganiad gan y cludydd sy'n ei gyflwyno i Gymru nad yw wedi'i ddadlwytho o'r cynhwsydd y cafodd ei allforio ynddo, nac wedi cael ei drafod fel arall.
50.—(1) Dim ond os oes gan y milfeddyg swyddogol seilau rhesymol dros gredu—
(a)na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd;
(b)nad yw'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; neu
(c)nad yw manylion adnabod neu gyrchfan y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyfateb i'r wybodaeth sydd wedi'i rhoi ar unrhyw ddogfen berthnasol
y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 19 iddo roi cynnyrch a ddychwelwyd, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi, i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), i gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch a ddychwelwyd.
51.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o fan archwilio ar y ffin, na pheri iddo gael ei symud, heb awdurdodiad ysgrifenedig y milfeddyg swyddogol yno.
(2) Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o fan archwilio ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n rhydd rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.
(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch a ddychwelwyd ac a symudwyd yn unol â pharagraffau (1) a (2), ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau —
(a)ei fod yn cael ei gludo'n uniongyrchol i'w sefydliad tarddiad Cymunedol yn y cynhwysydd seliedig sy'n rhydd rhag gollyngiadau neu'r cyfrwng cludo y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2); a
(b)bod y dystysgrif cliriad milfeddygol a ddyroddwyd mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd yn mynd gydag ef nes i'r cynnyrch a ddychwelwyd gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.
(4) Ni chaiff neb dorri'r seliau ar y cynhwysydd na'r cyfrwng cludo y mae'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cael ei gludo ynddo, na dadlwytho'r cynnyrch a ddychwelwyd, na hollti'r llwyth na'r rhan o'r llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch a ddychwelwyd, na pheri i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei drafod mewn unrhyw ffordd, nes iddo gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.
(5) Rhaid i weithredydd y sefydliad tarddiad Cymunedol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith fod y cynnyrch a ddychwelwyd wedi cyrraedd yno i'r milfeddyg sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: