Tystysgrif cliriad milfeddygol i fynd gyda llwythLL+C
20.—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ran o lwyth y mae tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar ei gyfer neu ar ei chyfer, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y dystysgrif cliriad milfeddygol yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhan—
(a)yn achos llwyth neu ran y bwriedir ei fewnforio neu ei mewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), nes bod y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd, ar ôl ei fewnforio neu ei mewnforio, y fangre lle mae cynhyrchion yn cael eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu, a
(b)ym mhob achos arall tan na fydd y llwyth neu'r rhan yn ddarostyngedig mwyach i oruchwyliaeth gan yr awdurdodau tollau, o fewn ystyr Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau.
(3) Rhaid i'r person sy'n meddiannu at ddibenion ei fusnes y fangre y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (1)(a) gymryd meddiant ar y dystysgrif cliriad milfeddygol y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) a dal ei afael arni yn y fangre am gyfnod o flwyddyn gan dechrau ar y diwrnod ar ôl iddi gyrraedd yno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 20 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1