xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CCyflwyniad

EsemptiadauLL+C

3.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad gydag awdurdodiad blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol fel samplau masnachu, i'w harddangos, neu ar gyfer astudiaethau neu ddadansoddiadau penodol.

(2Rhaid i awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3Nid yw Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, a Rhannau 4 i 10 yn gymwys i'r canlynol—

(a)cig, cynhyrchion cig, llaeth a chynhyrchion llaeth o Kalaallit Nunaat (Greenland), Ynysoedd Ffaröe, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Andorra, San Marino, Liechtenstein, Y Swistir, Estonia, Lithiwania, Latfia, Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Hwngari, Slofenia, Rwmania, Bwlgaria, Malta na Gweriniaeth Cyprus sy'n cael eu cyflwyno i Gymru ym magiau personol teithiwr os ydynt wedi'u bwriadu i'r person hwnnw ei hun eu bwyta neu eu hyfed, gan gymryd i ystyriaeth natur y cynnyrch a faint ohono y gallai unigolyn ei fwyta neu ei yfed yn rhesymol;

(b)llaeth powdr babanod, bwyd babanod, a bwydydd arbennig y mae eu hangen am resymau meddygol ac sy'n cynnwys cig, cynhyrchion cig, llaeth, neu gynhyrchion llaeth sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad nad yw wedi'i phennu ym mharagraff (a)—

(i)os ydynt yn cael eu cario ym magiau personol teithiwr a'u bod wedi'u bwriadu at ddefnydd personol y person hwnnw neu er mwyn iddo eu bwyta neu eu hyfed, gan gymryd i ystyriaeth natur y cynnyrch a faint ohono y gallai unigolyn ei fwyta neu ei yfed yn rhesymol;

(ii)os nad oes angen eu cadw mewn oergell cyn eu hagor;

(iii)os ydynt yn gynhyrchion brand patent sydd wedi'u pecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf; a

(iv)os ydynt wedi'u cynnwys mewn deunydd pacio sydd heb ei dorri; ac

(c)cynhyrchion nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn ymdrin â hwy ac sy'n cael eu cyflwyno i Gymru ym magiau personol teithiwr os ydynt wedi'u bwriadu i'r person hwnnw ei hun eu bwyta neu eu hyfed neu sy'n cael eu hanfon drwy'r post neu drwy gludydd a'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru ac eithrio o ran masnach neu sampl masnachu ac—

(i)os nad ydynt yn gig, yn gynhyrchion cig, yn llaeth nac yn gynhyrchion llaeth;

(ii)os nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy nag un cilogram; a

(iii)os ydynt yn dod naill ai o drydedd wlad neu ran o drydedd wlad sy'n bodloni'r amodau a osodir ym mharagraff (4), neu sydd wedi'u trin â gwres mewn cynhywysydd aerglos yn ôl gwerth Fo o 3.00 neu fwy.

(4Yr amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(c)(iii) yw bod y drydedd wlad neu ran o drydedd wlad—

(a)yn ymddangos ar restr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd y mae'n rhaid i Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio'r cynhyrchion o dan sylw, a'r rhestr honno wedi'i sefydlu drwy offeryn Cymunedol a restrir yn Atodlen 2; a

(b)heb fod yn wlad y mae mewnforio'r cynhyrchion o dan sylw wedi'i wahardd drwy unrhyw offeryn Cymunedol a restrir yn Atodlen 2.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “cig”, “cynhyrchion cig”, “llaeth” a “cynhyrchion llaeth” yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC ac mae “cig” yn cynnwys paratoadau cig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1