31.—(1) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 30—
(a)cynnal a gweithredu'r fangre yn unol â'r gofynion ym mharagraff 30(2)(a) a (b) ac unrhyw amodau yn y gymeradwyaeth;
(b)sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan y gweithredydd, ac unrhyw berson â chaniatâd i fynd i mewn i'r fangre yn cydymffurfio â'r gofynion a'r amodau hynny;
(c)cydymffurfio â'r gofynion ynghylch cadw cofnodion a gynhwysir yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 1774/2002; ac
(ch)cadw cofnodion cyfatebol ar gyfer deunydd y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29(3).
(2) Caniateir i'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y rheoliad hwn fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am o leiaf ddwy flynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 31 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1