1. Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n tarddu o anifeiliaid (OJ Rhif L224, 18.8.90, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 77/2002 (OJ Rhif L16, 18.1.2002, t.9).
2. Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid a'r Cyfarwyddebau sy'n ei dirymu, sef Cyfarwyddebau 1985/358/EEC a 1986/469/EEC a Phenderfyniadau 1989/187/EEC a 1991/664/EEC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.10).
3. Penderfyniad y Comisiwn 2000/159/EC ar gymeradwyo dros dro gynlluniau trydydd gwledydd ynghylch gweddillion yn ôl Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (OJ Rhif L51, 24.2.2000, t.30) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/702/EC (OJ Rhif L254, 8.10.2003, t.29).
4. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 yn gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002 (OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5).
5. Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli, a difa enseffalopathïau spyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1915/2003 (OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.29).
6. Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd (OJ Rhif L22, 25.1.2003, t.38) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/669/EC (OJ Rhif L237, 24.9.2003, t.7).