Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Rheoliad 8(3)(c)

ATODLEN 3LL+CPenderfyniadau Cyfwerthedd

1.  Penderfyniad y Cyngor 1999/201/EEC ar gwblhau'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Llywodraeth Canada ar fesurau iechydol i amddiffyn iechyd y cyhoedd a iechyd anifeiliaid mewn perthynas â masnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L71, 18.3.1999, t.1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

2.  Penderfyniad y Cyngor 98/250/EC ar gwblhau Protocol ynglŷn â mesurau iechydol, ffytoiechydol a mesurau lles anifeiliaid mewn perthynas â masnach yn unol â Chytundeb Ewrop rhwng y Cymunedau Ewropeaidd a'u Haelod-wladwriaethau, ar y naill ochr, a'r Weriniaeth Tsiec, ar y llall (OJ Rhif L106, 6.4.98, t.1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

3.  Penderfyniad y Cyngor 97/132/EC ar gwblhau'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Seland Newydd a'r mesurau iechydol sy'n gymwys i fasnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L57, 26.2.97, t.4) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 1999/837/EC (OJ Rhif L332, 23.12.99, t.1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

4.  Penderfyniad y Cyngor 2002/957/EC ar gwblhau Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyron ynghylch diwygio'r Atodiadau i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Seland Newydd ar fesurau iechydol sy'n gymwys i fasnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L333, 10.12.02, t.13).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

5.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd (OJ Rhif L22, 25.1.2003, t.38).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1