Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli ar gyfer categorïau penodol o achwynwyr o dan weithdrefn sylwadau Deddf Plant 1989. Mae'n mewnosod yn Neddf Plant 1989 adran newydd, h.y. adran 26A, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cymorth, gan gynnwys cymorth o ran gwneud sylwadau, i'r rhai sy'n gadael gofal ac i blant sy'n gwneud sylwadau trwy ddefnyddio'r gweithdrefnau o dan adrannau 24D a 26(3) o Ddeddf Plant 1989 neu sy'n bwriadu eu gwneud.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu pwy na chaiff roi cymorth o dan y trefniadau hyn i'r sawl sy'n gadael gofal neu i blentyn sy'n gwneud sylwadau o'r fath neu sy'n bwriadu eu gwneud (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth am wasanaethau eirioli i blentyn neu berson ifanc sy'n gwneud sylwadau neu, pan ddaw'r awdurdodau i wybod am hynny, i blentyn neu berson ifanc sy'n bwriadu gwneud sylwadau, ynghyd â chynnig help iddynt i ddod o hyd i eiriolwr (rheoliad 4).

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro'r camau y maent wedi eu cymryd gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 6 yn diwygio'r rheoliadau sy'n rheoli'r weithdrefn sylwadau — Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 — er mwyn sicrhau bod eiriolwr a bennwyd yn cael eu cynnwys yn y broses o'r dechrau i'r diwedd.