5. Yr awdurdod monitro dros Gymru yw Asiantaeth yr Amgylchedd.
6.—(1) Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun—
(a)faint o wastraff trefol a gasglwyd;
(b)faint o wastraff trefol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod; ac
(c)faint o wastraff trefol a anfonwyd i gyfleusterau gwastraff eraill gan yr awdurdod.
(2) O ran y gwastraff trefol a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1)(b) ac (c), rhaid i'r cofnod gynnwys manylion—
(a)y cyfanswm a anfonwyd i bob safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff, a
(b)y disgrifiad o'r gwastraff a'r cod priodol ar gyfer y gwastraff, yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd;
(3) Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.
(4) Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn mis i ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i awdurdod gwaredu gwastraff—
(a)dangos ar gyfer archwiliad neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw un o'r cofnodion y mae'n ofynnol iddo ei gadw o dan baragraff (1);
(b)darparu gwybodaeth i'r awdurdod monitro am faterion sy'n gysylltiedig ag anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi, neu dystiolaeth am y materion hynny;
a'i gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(6) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd neu a ddarparwyd o dan baragraff (5).
7.—(1) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun—
(a)maint pob llwyth gwastraff trefol a dderbyniwyd ar y safle tirlenwi;
(b)y disgrifiad o'r gwastraff, a'r cod priodol ar gyfer y gwastraff, yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd;
(c)y Sir neu'r Fwrdeistref Sirol y tarddodd y gwastraff trefol ohoni; ac
(ch)unrhyw driniaeth a roddwyd i'r gwastraff cyn ei iddo gael ei gladdu ar safle tirlenwi.
(2) Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.
(3) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn un mis o ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i weithredydd safle tirlenwi ddangos ar gyfer archwiliad, neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol i'r gweithredydd eu cadw o dan baragraff (1) ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn yr amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd o dan baragraff (4).
(6) Caiff person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro fynd ar unrhyw adeg resymol ac, os oes angen, drwy rym rhesymol i mewn i fangre nad yw'n fangre sy'n cael ei defnyddio fel annedd ac sydd wedi'i meddiannu gan berson sy'n ymwneud â gweithredu safle tirlenwi er mwyn—
(a)chwilio am gofnodion ynglŷn â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu;
(b)archwilio cofnodion ynglŷn â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu neu eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall;
(c)copïo cofnodion ynglŷn â'r ffordd y mae safle tirlenwi yn cael ei weithredu.
(7) Caiff person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan baragraff (6), fynd â'r canlynol gydag ef—
(a)unrhyw berson arall a awdurdodwyd yn briodol gan yr awdurdod monitro;
(b)os oes gan y person a awdurdodwyd achos rhesymol dros rag-weld unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n ei atal rhag cyflawni ei ddyletswydd, cwnstabl;
(c)unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben y mae'r pŵer mynediad yn cael ei arfer i'w gyflawni.
(8) Mae pŵer yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd gan yr awdurdod monitro, o dan baragraffau (4) i (6) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddynt unrhyw gyfleusterau a chymorth rhesymol o fewn rheolaeth y person sy'n angenrheidiol i alluogi'r awdurdod monitro a'r person a awdurdodwyd i arfer eu pwerau.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr “gweithredydd safle tirlenwi” yw'r person sydd â rheolaeth dros y safle tirlenwi.
(10) Yn y rheoliad hwn, mae i “triniaeth” yr un ystyr â “treatment” yn Erthygl 2(h) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff mewn safle tirlenwi(1).
8. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir mai 61 y cant o'r gwastraff trefol a gasglwyd yw maint y gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd.
9. Heb fod yn hwy na deufis ar ôl diwedd y cyfnod cysoni, rhaid i'r awdurdod monitro benderfynu mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi.
OJ L 182, 16.7.1999, t.1.