- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10. Rhaid i'r awdurdod monitro sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi sydd, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff ar gyfer pob blwyddyn gynllun, yn cynnwys—
(a)y lwfans a ddyrannwyd o dan adran 4 o'r Ddeddf;
(b)unrhyw newid yn y lwfans y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (a) o dan adran 5 o'r Ddeddf;
(c)faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd gwaredu gwastraff gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw; ac
(ch)balans y canlynol:
(i)y lwfans a gofrestrwyd o dan baragraff (a), fel y'i addaswyd gan unrhyw addasiad a gofrestrwyd o dan baragraff (b), (“y lwfans cyfan”); a
(ii)maint y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw fel y'i cofrestrwyd o dan baragraff (c) uchod.
11. Rhaid i'r Cynulliad sefydlu a chadw cofrestr a elwir “y gofrestr gosbau” y mae'n rhaid iddi gynnwys, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff, yr wybodaeth ganlynol—
(a)unrhyw adeg lle'r oedd yr awdurdod hwnnw yn agored i gosb o dan Ran 1, Pennod 1 o'r Ddeddf;
(b)swm y gosb;
(c)y dyddiad y mae'r gosb i fod i gael ei thalu;
(ch)swm unrhyw log y parwyd ei godi o dan reoliad 15;
(d)manylion unrhyw benderfyniad—
(i) i estyn yr amser ar gyfer talu'r cyfan neu ran o'r gosb neu unrhyw log arni o dan adran 26(1)(c)(i) o'r Ddeddf;
(ii)i ryddhau'r awdurdod gwaredu gwastraff, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, rhag bod yn agored i'r gosb gyfan neu ran ohoni neu unrhyw log arni o dan adran 26(1)(c)(ii) o'r Ddeddf; ac
(dd)y dyddiad y cafodd unrhyw daliad o ran cosb neu log ar gosb ei wneud i'r Cynulliad.
12. O ran unrhyw gofrestr sy'n cael ei chadw o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod perthnasol—
(a)trefnu bod y gofrestr a gedwir ganddo o dan y Rhan hwn ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ei brif swyddfa yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol; a
(b)rhoi cyfleusterau i aelodau'r cyhoedd gael copïau o gofnodion yn y gofrestr honno drwy dalu ffi resymol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: