RHAN 1Cyffredinol

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod casglu gwastraff;

  • ystyr “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy'n gweithredu'n unol â swyddogaethau a roddwyd iddo fel awdurdod gwaredu gwastraff;

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw —

    1. a

      yr awdurdod monitro, a

    2. b

      y Cynulliad;

  • ystyr “Catalog Gwastraff Ewropeaidd” (“European Waste Catalogue”) yw'r rhestr o wastraff a sefydlwyd yn unol â Phenderfyniad y Cyngor 2000/532/EC2;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20003;

  • ystyr “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adfer gwastraff ac eithrio safle tirlenwi; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “gwaredu” ac “adfer” yr un ystyr â “disposal” a “recovery” yn Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff4;

  • ystyr “cyfnod cysoni” (“reconciliation period”) yw'r cyfnod o dri mis ar ôl diwedd pob blwyddyn gynllun;

  • ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003;

  • ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol sy'n dod i feddiant neu o dan reolaeth—

    1. i

      awdurdod casglu gwastraff, neu

    2. ii

      awdurdod gwaredu gwastraff

    p'un a yw'r gwastraff ym meddiant neu o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19905) neu yn rhinwedd y Ddeddf honno neu beidio.

2

Yn y Rheoliadau hyn —

a

mae cyfeiriadau at faint gwastraff yn gyfeiriadau at faint gwastraff yn ôl tunelledd; a

b

mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod gwaredu gwastraff i safle tirlenwi neu gyfleuster gwastraff yn gyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i safle tirlenwi neu gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdod.