- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o unrhyw gynigion a wna o dan adran 113A yn y dull a bennir ym mharagraffau (2) a (3) isod, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1.
(2) Os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad —
(a)drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal i'w gwasanaethu gan yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol y cynigir a ddylai gynnal yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol arbennig; a
(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno.
(3) Os yw'r cynigion ar gyfer gwneud newid i ysgol a gynhelir neu gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad —
(a)drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal a wasanaethir gan yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol arbennig;
(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; ac
(c)drwy ei arddangos wrth brif fynedfa'r ysgol neu gerllaw iddi neu, os oes mwy nag un prif fynedfa, y cyfan ohonynt.
(4) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y personau canlynol —
(a)y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)corff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion (ac eithrio os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed);
(c) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir iddo gynnal, unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion;
(ch)unrhyw awdurdod addysg lleol cyffiniol;
(d)y Bwrdd Addysg Esgobaethol (neu gorff arall sy'n gyfrifol am addysg) ar gyfer unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig, y mae unrhyw rhan ohonynt o fewn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir a ddylai gynnal yr ysgol arfaethedig;
(dd)personau eraill y mae'r Cyngor yn barnu sy'n briodol.
(5) Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r hysbysiad at —
(a)bob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(c)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r ysgol yn ei ardal; ac
(ch)unrhyw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros berchenogaeth neu reolaeth unrhyw ysbyty neu sefydliad arall neu gyfleusterau eraill yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.
(6) Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig arfaethedig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (5).
(7) Yn y rheoliad hwn mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Deddf Addysg 1996.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: