Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol
10.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg cyn mabwysiadu cynllun, rhaglen neu addasiad neu cyn eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol er mwyn eu mabwysiadu (yn ôl y digwydd) ei gwneud yn ofynnol, yn ysgrifenedig, i'r awdurdod cyfrifol anfon at y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)copi o unrhyw benderfyniad o dan baragraff (1) o reoliad 9 ynghylch y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad;
(b)copi o'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy; a
(c)os yw paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys, datganiad o'r rhesymau a baratowyd yn unol â'r paragraff hwnnw.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r gofyniad a bennir o dan baragraff (1) o fewn 7 niwrnod ar ôl cael hysbysiad ohono.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (os anfonwyd copi o'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad ato neu beidio mewn ymateb i'r gofyniad o dan baragraff (1)).
(4) Cyn rhoi cyfarwyddyd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)ystyried y meini prawf a bennir yn Atodlen 1; a
(b)ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, anfon at yr awdurdod cyfrifol ac at bob corff ymgynghori—
(a)copi o'r cyfarwyddyd; a
(b)datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd.
(6) Mewn perthynas â chynllun, rhaglen neu addasiad y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy—
(a)bydd unrhyw benderfyniad o dan reoliad 9(1) o ran y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad yn peidio â bod yn effeithiol pan ddaw'r cyfarwyddyd i law; a
(b)os na wnaed penderfyniad o dan reoliad 9(1) o ran y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad, bydd yr awdurdod cyfrifol yn peidio â bod o dan unrhyw ddyletswydd a osodwyd gan y rheoliad hwnnw.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddyd” yw cyfarwyddyd o dan baragraff (3).