RHAN 2ASESIAD AMGYLCHEDDOL O GYNLLUNIAU A RHAGLENNI
Cyhoeddusrwydd ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddiadau11
1
O fewn 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan reoliad 9(1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon at bob corff ymgynghori—
a
copi o'r penderfyniad; a
b
os yw wedi penderfynu nad yw'n ofynnol i'r cynllun neu'r rhaglen gael asesiad amgylcheddol, datganiad o'i resymau dros y penderfyniad hwnnw.
2
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
a
sicrhau bod copi o'r penderfyniad, ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sy'n mynd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
b
o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud copi o benderfyniad o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
i
teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy;
ii
bod yr awdurdod cyfrifol wedi penderfynu bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol, neu yn ôl y digwydd, nad ydynt yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen neu, yn ôl y digwydd, nad oes angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a
iii
y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o'r penderfyniad ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sydd gydag ef.
3
Os bydd awdurdod cyfrifol yn cael cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), rhaid iddo—
a
sicrhau bod copi o'r cyfarwyddyd ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
b
o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cyfarwyddyd o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
i
teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy;
ii
bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cyfarwyddyd bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a
iii
y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol (a datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd).
4
Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) neu (3)(b)(iii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o'r dogfennau o dan sylw yn ddi-dâl; ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.