RHAN 3ADRODDIADAU AMGYLCHEDDOL A GWEITHDREFNAU YMGYNGHORI

Y gweithdrefnau ymgynghori13

1

Rhaid trefnu bod pob cynllun drafft neu raglen ddrafft y paratowyd adroddiad amgylcheddol ar eu cyfer yn unol â rheoliad 12, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, ar gael yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; cyfeirir at ddogfennau o'r fath fel “y dogfennau perthnasol” yn y rheoliad hwn.

2

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl paratoi'r dogfennau perthnasol, rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

a

anfon copi o'r dogfennau hynny at bob corff ymgynghori;

b

cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn paratoad y dogfennau perthnasol i sylw'r personau, ym marn yr awdurdod, yr effeithir arnynt neu y mae'n debygol yr effeithir arnynt, neu mae ganddynt fuddiant yn y penderfyniadau sy'n ymwneud ag asesu a mabwysiadu'r cynllun neu'r rhaglen o dan sylw, sy'n ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (“yr ymgynghoreion cyhoeddus”);

c

hysbysu'r cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus o'r cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld y dogfennau perthnasol, neu lle gellir cael copi ohonynt; a

ch

gwahodd y cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus i fynegi eu barn ar y dogfennau perthnasol, gan nodi'r cyfeiriad y dylid anfon y farn iddo ac yn ystod pa gyfnod y mae'n rhaid ei derbyn.

3

Rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(ch)—

a

beidio â bod yn llai na 28 diwrnod; a

b

fod am yr hyd hwnnw a fydd yn sicrhau y bydd y cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus yn cael cyfle effeithiol i fynegi eu barn ar y dogfennau perthnasol.

4

Rhaid i'r awdurdod cyfrifol sicrhau bod copi o'r dogfennau perthnasol ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl.

5

Nid oes dim ym mharagraff (2)(c) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copïau yn ddi-dâl ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.