Penderfyniadau'r awdurdod cyfrifol
9.—(1) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu a yw cynllun, rhaglen neu addasiad o ddisgrifiad y cyfeirir ato —
(a)ym mharagraff (4)(a) a (b) o reoliad 5;
(b)ym mharagraff (6)(a) o'r rheoliad hwnnw; neu
(c)ym mharagraff (6)(b) o'r rheoliad hwnnw,
yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.
(2) Cyn iddo wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod cyfrifol—
(a)ystyried y meini prawf a bennir yn Atodlen 1; a
(b)ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.
(3) Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu nad yw'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (ac, yn unol â hynny, nad yw'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol), rhaid iddo baratoi datganiad o'i resymau dros benderfyniad o'r fath.