xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 12(3)

ATODLEN 2GWYBODAETH AR GYFER ADRODDIADAU AMGYLCHEDDOL

1.  Amlinelliad o gynnwys a phrif amcanion y cynllun neu'r rhaglen, a'u perthynas (os oes un) â chynlluniau a rhaglenni eraill.

2.  Agweddau perthnasol cyflwr cyfredol yr amgylchedd a'i esblygiad tebygol heb weithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

3.  Nodweddion amgylcheddol yr ardaloedd y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn arwyddocaol.

4.  Unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen gan gynnwys, yn benodol, y rhai sy'n ymwneud ag unrhyw ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig, megis ardaloedd a ddynodwyd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt(1) a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

5.  Amcanion diogelu'r amgylchedd, a sefydlwyd ar lefel ryngwladol, Gymunedol neu Aelod-wladwriaethol, sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen a'r dull y cyflawnwyd yr amcanion hynny ac unrhyw ystyriaethau amgylcheddol a gymrwyd i ystyriaeth wrth eu paratoi.

6.  Yr effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd, gan gynnwys effeithiau byr, canolig a hirdymor, ac effeithiau parhaol a thros dro, effeithiau cadarnhaol a negyddol, ac effeithiau eilaidd, cronnol, a synergyddol, ar faterion gan gynnwys—

(a)bioamrywiaeth;

(b)poblogaeth;

(c)iechyd dynol;

(ch)ffawna;

(d)fflora;

(dd)pridd;

(e)dŵ r;

(f)awyr;

(ff)ffactorau hinsoddol;

(g)asedau materol;

(ng)y dreftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol;

(h)tirlun; a

(i)y gydberthynas rhwng y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (h).

7.  Y mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

8.  Amlinelliad o'r rhesymau dros ddethol y dewisiadau amgen yr ymdrinnir â hwy, a disgrifiad o'r dull y gwnaed yr asesiad gan gynnwys unrhyw anawsterau a gafwyd wrth gasglu'r wybodaeth ofynnol.

9.  Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir o ran monitro yn unol â rheoliad 17.

10.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 9.

(1)

O.J. Rhif L 103/1, 25.4.79.