Athrawon sy'n ymgymhwyso o dan Reoliadau 1999 ac sydd wedi astudio mewn sefydliadau a achredwyd o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999
2. Er gwaethaf dirymu Atodlen 3 i Reoliadau 1999, mae paragraffau 1 a 2A o'r Atodlen honno i barhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw bersonau sy'n dod o dan baragraff 2A o'r Atodlen honno tan yr adeg y caiff y personau hynny eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig o dan baragraff 1 o'r Atodlen honno neu tan iddynt roi'r gorau i astudio ar y cwrs.