Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 sy'n darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Mae rheoliad 2 yn mewnosod rhai diffiniadau newydd ac yn mewnosod hefyd Atodlen 4 newydd sy'n rhagnodi'r wybodaeth am ganlyniadau arholiadau a chymwysterau galwedigaethol y mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu eu cyhoeddi ym mhrosbectws eu hysgolion.