Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech

5.  Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Awst 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw diddymiad Atodlen 23 i Ddeddf 1998 (a wnaed gan adran 215(2) a Rhan 3 o Atodlen 22 ) i rym mewn perthynas â Chymru, mae paragraff 2 o Atodlen 23 i Ddeddf 1998 i gael effaith —

(a)fel pe bai'r geiriau “under any enactment” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “under section 28 or paragraph 5 of Schedule 7” yn is-baragraffau (1), (2) a (3), a

(b)fel pe bai'r geiriau “, or by the relevant authority under section 113A(5) of, or paragraph 1 of Schedule 7A to, the Learning and Skills Act 2000(1)” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (3)(b).

(1)

Mewnosodir adran 113A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac Atodlen 7A iddi gan adran 72 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 9 iddi ar 1 Awst 2004 (gweler O.S. 2004/1728 (Cy.172) (C.67).