- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Yn achos personau a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, bydd rheoliad 14 ac Atodlen 6 yn parhau i gael effaith hyd nes y cydymffurfir â'u holl ddarpariaethau.
(2) Nid yw athrawon —
(a)y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu
(b)a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,
i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.
2.—(1) Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997(1), Rheoliadau 1999, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(2) a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion —
(a)caniatáu cyflogi fel athrawon mewn ysgol athrawon anghymwysedig a oedd yn athrawon trwyddedig neu'n athrawon a hyfforddwyd dramor fel y'u diffiniwyd ynddynt ar 30 Tachwedd 1997, a bydd y dyletswyddau a osodwyd ar y personau mewn cysylltiad â hynny yn parhau i fod yn gymwys; a
(b)penderfynu a oedd personau, a oedd ar 30 Tachwedd 1997 neu unrhyw bryd cyn hynny yn athrawon trwyddedig, athrawon a hyfforddwyd dramor neu'n athrawon cofrestredig fel y'u diffiniwyd ynddynt, yn athrawon cymwysedig.
(2) Caiff personau sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol yn rhinwedd paragraff (1)(a) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes iddynt beidio â bod yn gyflogedig felly.
3. Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
4. Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: