- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol), y mae angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn cyflawni'r gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.
(2) Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol os, ar adeg eu penodiad —
(a)y mae'r awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu uned gyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu wrth weithredu gyda chytundeb yr awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig), neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol), yn ôl fel y diwgydd, wedi'i fodloni ynglyn â'u cymwysterau neu eu profiad neu'r ddau; a
(b)nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw.
(3) Dim ond am y cyfnod pan nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw y caiff personau sy'n cael eu penodi yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982 —
(a)os oedd eu penodiad am gyfnod penodedig, os a thra na fydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu
(b)os oedd eu penodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: