RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG
Person cofrestredig — gofynion cyffredinol a hyfforddiant11.
(1)
Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, gan roi sylw i natur y cynllun lleoli oedolion a nifer yr oedolion perthnasol a'u hanghenion ddarparu neu (yn ôl y digwydd) reoli'r cynllun â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.
(2)
Os yw'r darparwr cofrestredig —
(a)
yn unigolyn, rhaid i'r unigolyn hwnnw ymgymryd, neu
(b)
yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i sicrhau y darperir y cynllun â gofal, cymhwysedd a'r sgil digonol.
(3)
Os yw'r cynllun yn cael ei redeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un ohonynt yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).
(4)
Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol i sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i reoli'r cynllun.