Adolygu ansawdd gweithredu'r cynllun
22.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal a chadw system er mwyn—
(a)adolygu ar adegau addas; a
(b)gwella
ansawdd gweithredu'r cynllun, gan gynnwys ansawdd y llety a'r gofal a ddarperir mewn lleoliadau.
(2) Rhaid i'r person roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael, ar gais, i ofalwyr lleoliadau oedolion, oedolion perthnasol a'u cynrychiolwyr.
(3) Rhaid i'r system ddarparu ar gyfer ymgynghori gyda gofalwyr lleoliadau oedolion a chydag oedolion perthnasol a'u cynrychiolwyr.