RHAN I —CYFFREDINOL

Personau rhagnodedig3

1

Ac eithrio pan fydd paragraff (2) yn gymwys, mae person sy'n darparu neu'n rheoli cynllun lleoli oedolion yn cael ei ragnodi at ddibenion adran 42(1) o'r Ddeddf.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd y person yn unigolyn ac nid yw ond yn gwneud trefniadau ar gyfer lletya a darparu gofal personol ar gyfer ei berthynas.

3

Mae Rhan II o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir ym mharagraff (1) yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1 ac yn unol â'r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1.