xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig —
(a)adolygu'n gyson ac, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth â pharagraff (2), pan fydd yn briodol, diwygio'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion; a
(b)os diwygir yr arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion, darparu copi diwygiedig i bob oedolyn sydd wedi'i leoli adeg y diwygio o dan y cynllun lleoli oedolion.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, pan fydd yn ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn iddo fod yn effeithiol.