Ffitrwydd y darparwr cofrestredig
8.—(1) Ni chaiff person ddarparu cynllun lleoli oedolion oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i ddarparu cynllun lleoli oedolion oni bai bod y person yn —
(a)unigolyn sy'n darparu cynllun lleoli oedolion —
(i)heb fod mewn partneriaeth ag eraill ac sy'n bodloni gofynion paragraff (3); neu
(ii)mewn partneriaeth ag eraill a'i fod ef a phob un o'r partneriaid yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)corff ac —
(i)mae wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) o fewn y corff ac sy'n gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu uwch swyddog arall yn y corff ac sy'n gyfrifol am reoli'r cynllun; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw bod —
(a)y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ddarparu neu (yn ôl y digwydd) fod yn gyfrifol am reoli'r cynllun; ac
(c)mae gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennau llawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw.
(4) Nid yw person yn ffit i ddarparu cynllun lleoli oedolion os —
(a)yw ef wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os y dyfarnwyd i'w ystad gael ei secwestrio ac (yn y naill achos neu'r llall) os na ryddhawyd ef ac os na ddirymwyd neu ddadwnaed y gorchymyn methdalu; neu
(b)yw ef wedi gwneud compównd neu drefniant gyda'i gredydwyr, neu os yw wedi rhoi gweithred ymddiried ar eu cyfer, ac nad yw ef wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef neu â hi.