Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio —

  • Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2295 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2296 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288) a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw (rheoliadau 2, 3, 5 a 6); a

  • Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno (rheoliad 4).

Mae pob un o'r offerynnau a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio math penodol o fwyd.

Mae pob un o'r offerynnau hynny'n darparu ei bod yn rhaid i'r bwyd dan sylw gael ei fewnforio drwy bwyntiau mynediad penodol a restrir yn y Penderfyniad perthnasol.

Caiff y pwyntiau mynediad hynny eu hadolygu gan y Penderfyniadau a roddir ar waith gan y Rheoliadau hyn.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources