Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio —

Mae pob un o'r offerynnau a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio math penodol o fwyd.

Mae pob un o'r offerynnau hynny'n darparu ei bod yn rhaid i'r bwyd dan sylw gael ei fewnforio drwy bwyntiau mynediad penodol a restrir yn y Penderfyniad perthnasol.

Caiff y pwyntiau mynediad hynny eu hadolygu gan y Penderfyniadau a roddir ar waith gan y Rheoliadau hyn.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn.