Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1807 (Cy.195)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

13 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

1 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

(1)

1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).