2004 Rhif 1809 (Cy.196)
Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 19911, ac sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac maent yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Cynnydd yn y ffi archwilio2
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 19923 amnewdir am y ffigur “£20” yno y ffigur “£21”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)