- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Er gwaethaf adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, yn 2004 yr un diwrnod â dyddiad y bleidlais yn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop(1) a gynhelir y flwyddyn honno fydd diwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru.
(2) O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) cyfnod swydd unrhyw gynghorydd ar gyfer ardal llywodraeth leol yng Nghymru a fyddai wedi ymddeol fel arall ar y pedwerydd diwrnod ar ôl diwrnod arferol gwreiddiol etholiad at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod arferol etholiad newydd.
(3) Cyfnod swydd cynghorydd a etholir ar gyfer ardal llywodaraeth leol yng Nghymru ar ddiwrnod arferol etholiad yn 2004 y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredin nesaf.
(4) O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperiu ar ei gyfer ym mharagraff (1) ni fydd adran 16(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985(2) yn gymwys i unrhyw etholiadau cynghorwyr cymuned sydd i'w cynnal ar y diwrnod arferol ar gyfer etholiad cynghorwyr yn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru yn 2004.
(5) Mae unrhyw gyfeiriad at 6 Mai 2004 mewn unrhyw orchymyn—
(a)sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 (gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau Lleol Cymru),
(b)sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 28(3) o Ddeddf 1972 (sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned),
(c)sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 57(6) o Ddeddf 1972 (newid y trefniadau etholiadol ar gyfer cyngor cymuned), neu
(ch)sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3) (pŵer i newid y blynyddoedd pan fo etholiadau cyffredin cynghorwyr i'w cynnal),
i'w ddehongli fel cyfeiriad at ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr yn 2004 ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) uchod.
Mae dyddiad y bleidlais yn etholiad arferol Senedd Ewrop yn cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 4 o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002 (p. 24).
1985 p.50. Mae adran 16(1) yn darparu ar gyfer gohirio am 3 wythnos y bleidlais mewn etholiad cynghorwyr plwyfi os yw dyddiad y bleidlais mewn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop a diwrnod arferol etholiad cynghorwyr yng Nghymru a Lloegr yr un fath.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: