xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2245 (Cy.209)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

31 Awst 2004

Yn dod i rym

1 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “archwilydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i fod yn archwilydd at ddibenion y Gorchymyn;

ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(3);

ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/4/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith o ran yr Aifft(4));

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L; ac

mae i “tystysgrif ffytoiechydol” yr un ystyr â “phytosanitary certificate” yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn.

Mewnforion Tatws sy'n tarddu o'r Aifft

3.—(1At ddibenion erthygl 3(1)(e) o'r Gorchymyn dim ond os yw'n cydymffurfio â pharagraff 1(b)(xi) o'r atodiad i'r Penderfyniad y bydd tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer tatws sy'n tarddu o'r Aifft yn dystysgrif ffytoiechydol ddilys.

(2Ni fydd y gofyniad sy'n cael ei osod gan bwynt 25.8 o Adran 1 o Ran A Atodlen 4 i'r Gorchymyn (datganiad swyddogol bod tatws yn tarddu o ardaloedd lle nad yw'n hysbys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn digwydd) yn gymwys i fewnforion tatws sy'n tarddu o'r Aifft.

Cymeradwyo mangreoedd ar gyfer trin tatws sy'n tarddu o'r Aifft

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, gyflawni unrhyw driniaeth, gan gynnwys golchi, ar datws sy'n tarddu o'r Aifft ac eithrio mewn mangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i chymeradwyo'n ysgrifenedig at y diben hwnnw.

(2Rhaid i geisiadau am y gymeradwyaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (1) gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru atal neu ddirymu yn ysgrifenedig unrhyw gymeradwyaeth a roddwyd yn unol â pharagraff (1).

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bacio neu baratoi tatws mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i'w gyflwyno i'r defnyddiwr olaf.

Pwerau archwilydd

5.—(1Nid yw darpariaethau'r rheoliad hwn yn lleihau effaith y pwerau a roddwyd i archwilydd gan y Gorchymyn.

(2Pan fo ganddo sail resymol dros amau bod rheoliad 4(1) wedi'i dorri neu'n debyg o gael ei dorri, caiff archwilydd arfer y pŵer a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r Gorchymyn o'i ddarllen ynghyd ag erthygl 24(1) i (3) o'r Gorchymyn, fel petai taten sy'n tarddu o'r Aifft yn blanhigyn sy'n cael ei gadw neu ei symud yn groes i'r Gorchymyn.

(3Bydd unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn rhinwedd paragraff (2) yn cael effaith fel petai wedi'i gyflwyno o dan erthygl 22(2) o'r Gorchymyn a bydd erthyglau 24(4) i (6), 26 i 28, 32 a 33(1)(b) ac (c) a (6) o'r Gorchymyn yn gymwys yn unol â hynny.

(4Caiff archwilydd, er mwyn gwirio cydymffurfedd â rheoliad 4(1), arfer y pwerau a roddwyd gan erthygl 25 o'r Gorchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn.

(5Bydd arfer pŵer yn rhinwedd paragraff (4) yn cael ei drin fel arfer y pŵ er at ddibenion y Gorchymyn a bydd erthyglau 28 a 33(1)(c) yn gymwys yn unol â hynny.

Ffioedd am samplu mewnforion tatws

6.  Pan fo'r pŵer i gymryd samplau a roddwyd gan erthygl 25(1)(a) o'r Gorchymyn yn cael ei arfer gan archwilydd mewn perthynas â thatws sy'n tarddu o'r Aifft er mwyn darganfod, at ddibenion paragraff 3 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi'u heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny, dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ffi o £37.50 am bob eitem a samplwyd.

Tramgwyddau

7.—(1Bydd person yn euog a dramgwydd os yw'n torri rheoliad 4(1) neu'n methu cydymffurfio ag ef heb esgus rhesymol ac ar y person hwnnw y bydd baich profi bod ganddo'r esgus rhesymol hwnnw.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

8.—(1Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu o ran Cymru —

(a)Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft 1998(5); a

(b)Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Diwygio) 1998(6).

(2Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —

(a)Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000(7);

(b)Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001(8)); ac

(c)Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002(9).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Awst 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i Gymru yn unig, yn cydgrynhoi gyda diwygiadau Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft 1998 (“Rheoliadau 1998”). Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2004/4/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i gymryd mesurau ychwanegol dros dro yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith (a elwir bellach yn Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) o ran yr Aifft (“y Penderfyniad”). Dim ond os cydymffurfiwyd â'r mesurau sydd wedi'u gosod yn y Penderfyniad y mae'r Penderfyniad yn caniatáu i datws sy'n tarddu o'r Aifft, ac eithrio tatws hadyd, gael eu mewnforio i'r Gymuned Mae'n cydgrynhoi ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC (fel y'i diwygiwyd).

Mae Rheoliad 3(1) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y Gorchymyn”) sydd i fynd gyda mewnforion cloron tatws i Gymru ac y mae mewnforion o'r fath yn cael eu gwahardd hebddi. Yn achos tatws sy'n tarddu o'r Aifft, rhaid i'r dystysgrif gydymffurfio â'r gofynion ychwanegol sydd wedi'u gosod gan y Penderfyniad. Mae unrhyw berson sy'n mewnforio tatws o'r fath heb dystysgrif ffytoiechydol ddilys, yn groes i'r gwaharddiad sydd wedi'i osod gan Orchymyn 1993, gyda'r bwriad o osgoi'r gwaharddiad, yn euog o dramgwydd o dan adran 50(3) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.2) a chaniateir ei arestio.

Mae unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o'r fath o dan adran 50(3) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i gosb o £5,000 neu dair gwaith gwerth y nwyddau, p'un bynnag yw'r mwyaf, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu'r ddau; neu, o'i gollfarnu ar dditiad, i gosb o unrhyw swm, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na saith mlynedd, neu'r ddau.

Mae'r tramgwydd hwn o dan adran 50(3) yn disodli tramgwydd tebyg o fewnforio tatws yn groes i Reoliadau 1998, a oedd wedi'i gynnwys yn y Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliad 3(2) yn dileu, o ran mewnforion tatws sy'n tarddu o'r Aifft, y gofyniad o dan Orchymyn 1993 i ddatganiad swyddogol bod y tatws yn tarddu o ardaloedd lle nad yw'n hysbys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn digwydd.

Mae Rheoliad 4 yn gosod gofyniad bod mangreoedd, (ac eithrio mangreoedd penodol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pacio neu baratoi tatws i'w cyflwyno i'r defnyddiwr olaf) sy'n cael eu defnyddio i drin tatws sy'n tarddu o'r Aifft, yn cael eu cymeradwyo at y diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn yn dramgwydd sy'n peri bod y tramgwyddwr yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5,000 ar hyn o bryd) (rheoliad 7).

Mae Rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau drwy archwilwyr ac mae rheoliad 6 yn darparu pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o £37.50 am gymryd samplau o datws sy'n tarddu o'r Aifft i ddarganfod a ydynt wedi'u heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn unol â'r Penderfyniad. Mae hyn heb ei newid o'r ffi a oedd yn daladwy am samplu o'r fath o dan Reoliadau 1998.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-Adran Polisi Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cendlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.