Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “archwilydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i fod yn archwilydd at ddibenion y Gorchymyn;

ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 19933;
ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/4/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith o ran yr Aifft4);

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L; ac

mae i “tystysgrif ffytoiechydol” yr un ystyr â “phytosanitary certificate” yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn.