Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
15 Medi 2004
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(b)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1), (2)(a), (b), (7)(c) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac adrannau 79C(2), (3)(b), (f) a (104)(a) o Ddeddf Plant 1989(2), a chan ei fod o'r farn nad yw drwy hyn yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed eisoes gan reoliadau o dan adran 22 o Ddeddf 2000(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. O ran y Rheoliadau hyn—
(a)eu henw yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004;
(b)deuant i rym y diwrnod ar ôl iddynt gael eu gwneud.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(4) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“8. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(5) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“8. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(6) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 9”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“9. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(7) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 2, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 10”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“10. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
(3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 4, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 14”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“14. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
6.—(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(8) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 3, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 11”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“11. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 3 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
(3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 4, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 13”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“13. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
7.—(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(9) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;
(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—
“8. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Medi 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o ganlyniad i gychwyn, ar 26 Gorffennaf 2004, ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy'n sefydlu rhestr o bersonau yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gydag oedolion hawdd eu niweidio (“y rhestr”).
Mae rheoliadau 2 i 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (“y Rheoliadau presennol”). Mae'r Rheoliadau presennol (ac eithrio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004) yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif cofnod troseddol lai na theirblwydd oed fod ar gael o ran darparwyr, rheolwyr a staff penodol yr ymgymeriadau y mae'r Rheoliadau'n berthnasol iddynt. (Nid yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 yn cynnwys terfyn oedran o'r fath.) Os person y gellir cadarnhau pa un a yw wedi'i gynnwys ar y rhestr ai peidio yw testun y dystysgrif, mae'r Rheoliadau presennol yn darparu bod yn rhaid i'r dystysgrif nodi a yw'r person wedi'i gynnwys felly.
Mae'r diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i'r Rheoliadau presennol yn darparu, os oedd tystysgrif cofnod troseddol ar gael ar 26 Gorffennaf 2004, nad cymwys unrhyw ofyniad am i'r dystysgrif nodi a yw testun y dystysgrif wedi'i gynnwys ar y rhestr.
2000 p. 14. Rhoddir y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr “appropriate Minister” mewn perthynas â Chymru yw'r Cynulliad (adran 121(1) o Ddeddf 2000); ystyr “Assembly” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000). Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 am y diffiniad o “regulations”.
1989 p. 41. Rhoddwyd y pwerau i'r Cynulliad. Ystyr “the Assembly” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 79B(2) o Ddeddf 1989). Mewnosodwyd adran 79C yn Neddf 1989 gan adran 79(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn darparu bod yn rhaid i'r “appropriate Minister”, cyn iddo wneud rheoliadau o dan yr adran honno, ymgynghori ag unrhyw berson y mae o'r farn ei fod yn berson priodol, onid yw'r rheoliadau'n diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac nad ydynt, ym marn y Gweinidog, yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau hynny.
O.S. 2002/324 (Cy. 37); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).
S.I. 2002/327 (Cy. 40); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).
O.S. 2002/325 (Cy. 38); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).
O.S. 2002/812 (Cy.92); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).