(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)); Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)); Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)); a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910 (Cy.276)) sy'n cael eu hadnabod yn eu crynswth at ddibenion y Nodyn Esboniadol hwn fel “y Rheoliadau Bwyd”

Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu geiriad diangen o reoliad 6(2) o'r priod Reoliadau Bwyd, sy'n darparu bod rhaid i hysbysiad, sy'n gorchymyn ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon, gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(3) o'r priod Reoliadau Bwyd er mwyn sicrhau bod y Llys Ynadon yn gallu penderfynu a yw hysbysiad sydd wedi'i gyflwyno gan swyddog awdurdodedig o dan reoliad 6(1) wedi'i gyflwyno'n gywir a hefyd a yw'n gyfreithlon mewnforio'r cynnyrch o dan sylw.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'n benodol hefyd Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)). Maent yn diwygio'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd arolygiad neu archwiliad o gnau Brasil yn dangos nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) (rheoliad 2(2)). Mae'r weithdrefn ddiwygiedig yn cydweddu â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg sy'n deillio o Frasil neu wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33).

Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliad 3(4)) hefyd yn diwygio'n benodol Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)) er mwyn cywiro gwall drafftio.

Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn.