13.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 11 a 12, caiff awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla, fel y mae'n credu ei bod yn briodol, unrhyw un neu bob un o'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn yr Atodlen, fel y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen.
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath.
(3) Nid yw ffactor sydd wedi'i gynnwys mewn fformwla awdurdod yn unol â pharagraff 19 o'r Atodlen, at ddiben paragraff (2), yn ffactor a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol.